{I'r Brawd bregeth-wr}
1 Gwae fi na wyr y forwyn
2 Glodfrys a'i llys yn y llwyn
3 Ymddiddan y brawd llygliw
4 Am danai y dydd eddiw
5 Mi a euthym at y brawd
6 I gyffessu fy mhechawd
7 Iddaw'r addefais od gwnn
8 Mae eilun prydydd oeddwn
9 Am bod erioed yn caru
10 rhiain wyneb-wen ael-ddu
11 ac na bu mi om llofrudd
12 Les am vn bennes na budd
13 Ond ei charu'n hir wastad
14 A churio'n fawr o'i chariad
15 A dwyn ei chlod drwy Gymry
16 A bod hebddi er hynny
17 A damuno ei chlywed
18 I'm gwely rhof â'r pared
19 Heb y brawd wrthif yna
20 Mi a rown it gyngor da
21 O cheraist eiliw ewyn
22 llyw papyr oed hir hyd hynn
23 llaessa boen y dydd a ddaw
24 lles yw ith enaid beidiaw
25 a thewi ar cywyddau
26 ac arfer oth baderau
27 nid er cywydd nac englyn
28 y prynnodd Duw enaid dyn
29 nid eich ywch cerdd chwi y gler
30 Ond truth a lleisiau ofer
31 Ac annog gwyr a gwragedd
32 I bechod ac anwiredd
33 Nid da'r moliant corphorawl
34 a ddycco'r enaid i ddiawl
35 Minnau a attebais i'r brawd
36 am bob gair a'r a ddywawd
37 nid ydyw Duw mor greulon
38 ac y dywaid hen ddynion
39 ni chyll Duw enaid gwr mwyn
40 Er caru gwraig na morwyn
41 Tri pheth a gerir drwy'r byd
42 gwraig a hinon ac iechyd
43 merch sydd deccaf blodeun
44 yn y nef ond Duw ei hun
45 O wraig y ganed pob dyn
46 or holl bobloedd ond tridyn
47 ac am hynny nid rhyfedd
48 Carwu
merched a gwragedd
49 O'r nef caed pob digrifwch
50 Ac o vffern pob tristwch
51 Cerdd a bair yn llawenach
52 hen ac ieuangc claf ac iach
53 cyn rheitied i mi brydu
54 ac i tithau bregethu
55 a chyn iawned i mi glera
56 ac i tithe gardotta
57 pand englynion ac odlau
58 yw'r ymneru ar secwensiau
59 a chywyddau i dduw lwyd
60 yw llasswyr dd brophwyd
61 nid â'r vn bwyd ac enllyn
62 y mae Duw'n porthi pob dyn
63 amser a osodwyd i fwyd
64 ac amser i olochwyd
65 ac amser i bregethu
66 ac amser cyfanheddu
67 [7r] cerdd a genir ym mhob gwledd
68 i ddiddanu rhianedd
69 a phader yn yr eglwys
70 i geisio tir paradwys
71 gwir a ddywad Ystudfach
72 gyd âi feirdd yn cyfeddach
73 wyneb llawen llawn ei dy
74 wyneb trist drwg a ery
75 cyd caro rhai sanctaiddrwydd
76 rhai a gar gyfanheddrwydd
77 an aml a wyr gywydd pêr
78 a phawb a wyr ei Bader
79 ac am hynny'r deddfawl frawd
80 Nid cerdd sydd fwyaf pechawd
81 Pan fo cystal gan bob dyn
82 glywed cyss pader ac englyn
83 a chan forwynion Gwynedd
84 glywed cywydd o faswedd
85 Mi a ganaf myn fy llaw
86 y pader fyth heb peidiaw
87 Hyd hynny mefl i ddafydd
88 O chan Bader ond cywydd
dd ap Gwilym